Mae’r QWFC yn ardystio ffermydd yn erbyn safonau Uned Gwarantin (QU) Llywodraeth Cymru. Mae’r Uned Gwarantin yn rhoi dewis gwahanol i ffermwyr i’r rheol gwahardd symud chwe niwrnod. Mae manylion y cynllun a sut y gallwch ymuno wedi eu cynnwys yn y dogfennau ar y wefan hon. Darllenwch nhw'n ofalus, yn enwedig safonau'r cynllun sy’n cael eu nodi yn Llawlyfr y Cynhyrchydd.

Bydd angen i chi ddychwelyd y canlynol:

1.       Y ffurflen gais

2.       Map neu gynllun yn dangos union leoliad yr uned gwarantin

3.       Cynllun bioddiogelwch Uned Gwarantin (QU)

4.       Taliad

Bydd angen Rhif Daliad (CPH) ar wahân ar gyfer yr uned gwarantin. Pan fydd proses archwilio'r uned gwarantin wedi'i chwblhau a phan fyddwn yn barod i ddarparu tystysgrif cydymffurfio i chi, bydd QWFC yn anfon copi o'ch ffurflen gais at Lywodraeth Cymru er mwyn iddynt gyflenwi'r Rhif Daliad hwnnw a byddwn ni wedyn yn ei anfon ymlaen atoch chi gyda thystysgrif yr Uned Gwarantin.

Yn ogystal, mae angen i chi fod yn ymwybodol, pan fydd yr uned gwarantin yn cael ei defnyddio, efallai y byddwch yn cael eich archwilio gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Gweler Llawlyfr y Cynhyrchydd am ragor o fanylion.

Cliciwch arnynt i’w gweld a’u lawrlwytho:

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â ni ar 01970 636688.